Piano a Llais

Mae gwersi lleisiol yn cynnig hyfforddiant mewn amrywiaeth eang o arddulliau cerddorol gan gynnwys Roc a Phop, Theatr Gerddorol, Clasurol a Gwerin. Mae ein tiwtoriaid yn gweithio gyda diddordebau myfyrwyr gan ddewis caneuon gyda’r myfyrwyr y maen nhw’n eu mwynhau ac yn angerddol amdanyn nhw. Bydd galluoedd y disgyblion yn cael eu datblygu hyd at safon TGAU/Safon Uwch a thu hwnt. Bydd gwersi piano yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen nid yn unig i allu chwarae amrywiaeth eang o arddulliau ar y piano ond hefyd datblygu sgiliau a thechnegau bysellfwrdd electronig.