Yr offerynnau rydyn ni’n eu haddysgu

Mae Gwasanaeth Cerdd Caerffili yn cynnig tiwtora unigol a thiwtora grwpiau bach pwrpasol i ysgolion o fewn pob teulu offerynnol, gan roi amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu i blant trwy diwtora arbenigol i helpu datblygu eu sgiliau. Mae tiwtora offerynnol a lleisiol yn weithgaredd hyfryd a phleserus sy’n dod â chymaint o fanteision y tu hwnt i ddim ond “creu cerddoriaeth”.

Mae’r meysydd lles, iechyd, hyder, sgiliau iaith, a sgiliau cyfathrebu i gyd yn cael eu heffeithio’n gadarnhaol gan wersi offerynnol/lleisiol pwrpasol. Er bod yn bosibl y bydd rhai ysgolion yn gofyn am ffi fach bob tymor i gyfrannu at wersi, bydd Gwasanaeth Cerdd Caerffili yn rhoi benthyg offeryn am ddim.