Bydd gwersi gitâr a gitâr fas yn mynd â disgyblion o ddechreuwyr pur hyd at safon TGAU/Safon Uwch a thu hwnt. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn cysylltu’r gitâr â cherddoriaeth Roc a Phop, bydd gan ddisgyblion hefyd y gallu i ddysgu arddulliau clasurol a jazz.