Mae Gwasanaeth Cerdd Caerffili yn cynnig profiadau cerddorol dosbarth cyfan i’n hysgolion sy’n cwmpasu’r holl deuluoedd cerddorol. Mae’r prosiectau hyn yn para tua thymor fesul grŵp blwyddyn ac mae modd eu grwpio nhw i sesiwn gylchdroi o dair disgyblaeth i ddarparu profiad llawn a swynol.
Yn cynnwys pBuzz, JSax, doods, recorder, iwcalili, ffidl.
Mae gwersi dosbarth cyfan Gwasanaeth Cerdd Caerffili yn rhoi cyfle i ddysgu hanfodion offeryn mewn cyd-destun dysgu dosbarth cyfan.
Mae gwersi canu dosbarth cyfan yn darparu cyd-destun dysgu cerddorol llawn hwyl. Mae llawer o weithgareddau cynhesu a gemau cerddorol apelgar yn cael eu cymysgu â dysgu caneuon llawn hwyl a phleserus. Mae’r gweithgareddau cynhesu yn datblygu techneg leisiol dda ynghyd â chynhesu’r llais a’r corff ar gyfer canu a rhoi cychwyn â ffocws i’r gwersi. Bydd amrywiaeth eang o arddulliau a mathau o ganeuon, gan gynnwys caneuon sy’n ategu’r pynciau dan sylw yn y cwricwlwm am y tymor.
Yn newydd ar gyfer 2023/2024, mae Gwasanaeth Cerdd Caerffili yn cyflwyno prosiectau Technoleg Cerddoriaeth cyffrous, sef Troellfyrddu a GarageBand ar gyfer iPad. Oedran targed y prosiectau hyn yw disgyblion blwyddyn 5 a 6.
Mae’r prosiect Troellfyrddu yn rhoi trofwrdd finyl i bob disgybl, lle maen nhw’n dysgu technegau DJ-io Crafu sy’n cael eu defnyddio gan DJs proffesiynol. Mae disgyblion yn dysgu darllen nodiant, ac yn datblygu sgiliau perfformio a chyfansoddi.
Mae pecyn Troellfyrddu yn cynnwys llogi’r cyfarpar trofwrdd, adnoddau dysgu a diwrnod o ddysgu proffesiynol i staff yr ysgol a fydd yn darparu’r prosiect.
Mae’r prosiect GarageBand ar gyfer iPad ond ar gael i ysgolion sydd â darpariaeth eu hunain o iPads (o leiaf 1 rhwng 2 ddisgybl). Yn y prosiect diddorol iawn hwn, mae disgyblion yn dysgu llawer o sgiliau technegol llywio a defnyddio nodweddion adran dolenni byw GarageBand. Byddan nhw’n archwilio amrywiaeth o genres cerddorol, yn dysgu amrywiaeth eang o eirfa gerddorol dechnegol a thraddodiadol ynghyd â chyfansoddi a pherfformio darnau gan ddefnyddio ffurf arbennig ar nodiant graffig.
Mae prosiect GarageBand yn cynnwys llogi set dosbarth o glustffonau a holltwyr, fodd bynnag, mae’n rhaid i’r ysgol ddarparu eu set eu hunain o iPads gyda’r fersiwn diweddaraf o GarageBand wedi’i osod.
Mae’r rhaglen Profiadau Cyntaf yn rhan o’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth. Bydd y rhaglen hon yn darparu tymor o wersi dosbarth cyfan i blant blwyddyn 3 yn rhad ac am ddim. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n ei gynnig ar wahanol offerynnau gan ddibynnu ar y tiwtor sy’n cyflwyno’r prosiect.