Mae Gwasanaeth Cerdd Caerffili yn cynnig amrywiaeth eang o grwpiau cerddoriaeth allgyrsiol sy’n rhad ac am ddim i ymuno â nhw. Mae chwarae mewn ensemble yn rhan bwysig o ddatblygu cerddorol. Mae ymarferion wythnosol yn creu dealltwriaeth unigryw o ymrwymiad a gwaith tîm, gan hefyd yn canolbwyntio ar hyrwyddo lefelau gallu personol, ac mae’n ffordd wych o ddod o hyd i ffrindiau newydd drwy wneud cerddoriaeth gyda’ch gilydd. Mae’n ffordd gyffrous a llawn hwyl o chwarae cerddoriaeth sy’n creu llawer o gyfleoedd perfformio grŵp a fydd yn helpu datblygu hyder a chynhwysiant mewn amgylchedd llawn hwyl a diogel. Gwiriwch gyda’ch tiwtoriaid Gwasanaeth Cerdd Caerffili ynghylch y safon ofynnol.