Mae Gwasanaeth Cerdd Caerffili yn rhoi cyfle i ddisgyblion weithio tuag at arholiadau graddedig gydag un o amrywiaeth o fyrddau arholi pan fydd disgybl yn cyrraedd y safon ofynnol. Hefyd, rydyn ni’n darparu cymorth hanfodol i’n hysgolion o fewn eu strwythurau arholiadau eu hunain.
Yn cynnig ysgol arholiad raddedig ar gyfer pob math o offeryn a llais o Radd 1 i 8 a Diplomâu. Yn ogystal â hyn, mae hefyd y potensial i sefyll arholiadau theori cerddoriaeth ac mae gan bob bwrdd Faes Llafur Jazz ar gyfer y rhai sydd â diddordeb yn y genre hwn.
Mae hyn yn cynnig cyfle i gitarwyr, gitarwyr bas, drymwyr a lleiswyr ennill tystysgrif mewn arholiadau mwy cyfoes sy’n seiliedig ar gerddoriaeth boblogaidd.
Mae hyn yn cynnig arholiadau ychwanegol i gantorion, gyda changen sy’n canolbwyntio’n benodol ar y Theatr Gerddorol.
Mae arholiadau offerynnol Gradd 6 ac uwch yn ennill pwyntiau UCAS sy’n cyfrannu at fynediad i’r Brifysgol.
Mae Gwasanaeth Cerdd Caerffili yn cynorthwyo ein hysgolion uwchradd gyda hyfforddiant pwrpasol ar gyfer disgyblion sy’n sefyll arholiadau cerddoriaeth y Cwricwlwm Cenedlaethol mewn perfformiadau unigol a pherfformiadau ensemble. Mae gennym ni hefyd y gallu i gynorthwyo ysgolion a disgyblion i ddatblygu eu cyfansoddiadau cerddorol, gan gynnwys ysgrifennu caneuon.